Cynllunio eich ymweliad
Barod am antur
Fel y gwelwch chi cyn bo hir, byddwch yn profi rhai o atyniadau mwyaf anhygoel Gogledd Cymru drwy ddod ar ymweliad i Barc Padarn. Wedi’i amgylchynu gan olygfeydd prydferth, mae’n lle delfrydol i’w archwilio a chreu atgofion anhygoel.
Lleoliad
Mae Wardeiniaid Parc Gwledig Padarn wedi’u lleoli yn Ysbyty’r Chwarel, ond mae’r tri phrif faes parcio i’w gweld isod.
Cyrraedd yma
- O gyfeiriad Bangor, gadewch yr A55 ar gyffordd 11 a dilynwch yr arwyddion am yr A4244 i Lanberis.
- O gyfeiriad Caernarfon, dilynwch yr A4086 i Lanberis
- O gyfeiriad Betws-y-Coed, dilynwch yr A5 cyn ymuno â’r A4086
Parcio
Cynllun ArosFan
Defnyddiwch ein mannau ArosFan a leolir yn Y Glyn, Llanberis i barcio eich cartref modur. Mae dwy ffordd o dalu ar gael, naill ai drwy’r peiriannau talu ac arddangos ar y safle neu yn defnyddio app Pay By Phone (lleoliad 804551).
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Gwynedd.
Archwilio'r parc
Ar ôl cyrraedd yma, dewiswch lwybr a dewch i ganfod yr hyn sy’n gwneud y parc hwn mor arbennig. Mae gennym lwybrau drwy’r goedwig ac o amgylch y llyn i chi eu dewis, bob un â’i olygfeydd unigryw i’w mwynhau.




Beth sydd ar y gweill?
Rydym yn ffodus i ddarparu’r lleoliad ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, o’r ‘Welsh Winter Swim’ adfywhaol i’r Rali Ceir Clasurol hiraethlon. Gall y dyddiadau hyn effeithio ar fynediad a phrysurdeb y parc, felly cysylltwch yn uniongyrchol â’r sefydliad sy’n cynnal y digwyddiad.
Cwestiynau Cyffredin
PRYD MAE YSBYTY'R CHWAREL AR AGOR?
Ar agor o 10.00 y bore, gyda mynediad olaf am 4.30 y prynhawn, saith diwrnod o’r wythnos.
Plis nodwch, ar y dyddiadau isod bydd Ysbyty’r Chwarel yn agor ychydig yn hwyrach nag arfer am 12.00 o’r gloch:
9fed Mehefin
14eg Gorffennaf
11eg Awst
8fed Medi
6ed Hydref
3ydd Tachwedd
1af Rhagfyr
A YW YSBYTY'R CHWAREL YN HYGYRCH?
Ydi, mae Ysbyty’r Chwarel yn hygyrch i ymwelwyr. Fodd bynnag, ni chaniateir mynediad i gerbydau i Ysbyty’r Chwarel, ac eithrio Deiliaid Bathodyn Glas. Cynghorir Deiliaid Bathodyn Glas i gysylltu â ni ymlaen llaw i sicrhau bod y ffordd fynediad yn agored a bod lle parcio ar gael. Rydym yn hapus i helpu! Y maes parcio agosaf yw Gilfach Ddu, sydd tua 5 i 10 munud o waith cerdded i ffwrdd.
A GAF FI DDOD Â FY NGHAIAC NEU BADLFWRDD FY HUN?
A GAF FI DDOD I FFILMIO?
A OES LLE PARCIO AR Y SAFLE?
Oes, mae tri maes parcio ar gael i’w defnyddio, gyda meysydd parcio’r cyngor yn ychwanegol yn yr ardal. Gallwch dalu am barcio drwy’r peiriant neu drwy’r ap PayByPhone.