Ffilmio

Cefndir godidog

Os oes gennych ddiddordeb mewn ffilmio ym Mharc Padarn, anfonwch e-bost ymlaen llaw i parcgwledigpadarn@gwynedd.llyw.cymru er mwyn rhoi gwybodaeth am eich prosiect. Paul yw ein prif warden a bydd yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion.

Dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Natur a diben eich prosiect ffilm
  • Y nifer o aelodau’r criw sy’n rhan o hyn
  • Ardaloedd penodol y parc rydych yn dymuno eu defnyddio
  • Y dyddiadau ac amseroedd arfaethedig ar gyfer ffilmio ac opsiynau dyddiadau eraill
  • Cynllun asesiad risg cynhwysfawr a thystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • Enw a chyfeiriad yr ymgeisydd (ar gyfer anfonebu)

Prisiau

FfiMaint y criw
£35Elusennau, myfyrwyr (yn ôl disgresiwn)
£70Camera llaw: hyd at 5 person
£140Criw bach: hyd at 10 person, dim ond camera a thripod
£239Criw canolig: 11–19 o bobl
£350Criw mawr: 20–49 o bobl
£420Criw mawr iawn: 50+ o bobl

Taliadau gweinyddu ychwanegol ar gyfer cynyrchiadau graddfa fawr os yn angenrheidiol. Mae’r prisiau isod yn cynnwys TAW:

FfiMaes Gweinyddu
£150 yr awrCodir hwn ar ôl i waith gweinyddu redeg dros awr (Telir am yr awr gyntaf gan ffi Gweinyddu'r cais)
£150 yr awrCyfarfodydd safleoedd lleoliad
A wyddoch chi?

Unrhyw gwestiynau?

Dewiswch eich iaith:

Select your language: