Hafan/Y parc/Ysbyty’r Chwarel
Ysbyty’r Chwarel
Cymerwch gip ar y gorffennol, gan archwilio’r ysbyty hanesyddol wrth fwynhau’r golygfeydd trawiadol dros y llyn.
Gwybodaeth i Ymwelwyr
Rydym yn gweithredu’n dymhorol ac ar agor o wyliau’r Pasg tan fis Medi. Rydym yn annog ymwelwyr i ffonio ymlaen llaw i gadarnhau oriau agor, yn arbennig os yw’r ysbyty yn rhan allweddol o’ch ymweliad, rydym ar agor o 1-4pm.
Er bod y chwarel lechi’n hygyrch i ymwelwyr, gofynnwn i ddeiliaid Bathodyn Glas i gysylltu â ni’n uniongyrchol oherwydd prinder lle. Mae hyn yn ein helpu ni i reoli eich ymweliad a sicrhau profiad dymunol. Mae croeso hefyd i ddeiliaid Bathodyn Glas yrru i fyny i’r safle.






Prif nodweddion
Archwiliwch arddangosiadau o gyfarpar ac arferion meddygol hanesyddol a ddefnyddiwyd ar un adeg i drin chwarelwyr – cipolwg rhyfeddol ar y gorffennol. Mae ein harddangosfeydd yn dangos datblygiadau meddygol arloesol yr ysbyty ac yn rhoi darlun i ni o’r ffordd roeddent yn helpu i gadw’r chwarelwyr yn iach a diogel, gan gyfrannu at hanes diwydiannol cyfoethog ein hardal.