Hafan/Y parc/Archwilio
Archwilio
Bachwch eich esgidiau cerdded a dewch o hyd i lwybrau troellog ar hyd a lled y parc, gan fwynhau adeiladau hanesyddol a golygfeydd trawiadol wrth grwydro. Mae dewis o bedwar prif lwybr, bob un wedi’u cyfeirio yn ôl lliw, felly mae llwybr i bawb heb os nac oni bai.
Y llwybrau
Mae dewis o bedwar llwybr cerdded; Cylchdaith y Llyn, Llwybr Natur, Llwybr Vivian, a Thaith y Goedwig. Mae bob llwybr yn mynd i wahanol gyfeiriad, gan ddechrau ym maes parcio Gilfach Ddu.




Taith y Goedwig
O faes parcio Gilfach Ddu, dilynwch yr arwyddion cyfeirio melyn i gyfeiriad adeilad gorsaf Rheilffordd Llyn Padarn. Mae’r daith Fer oddeutu 3km (1.5 awr) ac mae’r daith lawn oddeutu 4km (2.5 awr).
Ar hyd y ffordd, fe ddowch ar draws weddillion gorffennol diwydiannol Chwarel Dinorwig, gan gynnwys yr incleins a’r tai weindio a ddefnyddiwyd i gludo llechi. Mae’r llwybr hefyd yn mynd â chi drwy Goed Dinorwig, coedwig dderw hynafol sydd wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Cylchdaith y Llyn
Mae Cylchdaith y Llyn wedi’i nodi gan arwyddion cyfeirio gwyn heibio’r gweithdai crefftau. Ar y daith hon byddwch yn croesi’r bont rheilffordd, lle arferai’r llechi gael eu cludo o Ddinorwig i’r Felinheli. Mae’r daith oddeutu 8km (2.5 awr).
Byddwch yn pasio Ysbyty Chwarel Dinorwig, sydd bellach yn amgueddfa, gyda golygfeydd gwych o’r llyn.





Llwybr Vivian
Cerddwch i gyfeiriad gorsaf Rheilffordd Llyn Padarn, yna dilynwch yr arwyddion cyfeirio glas yr holl ffordd i Chwarel Vivian, lle cewch olygfa o’i phwll 20 metr o ddyfnder. Mae’r llwybr isaf oddeutu 1.5km (1 awr), ac mae’r llwybr uchaf oddeutu 5km (2.5 awr).
Archwiliwch Lwybr Uchaf Vivian, sy’n eich arwain at lefelau uchaf y chwarel a thrwy Goed Dinorwig. Byddwch yn pasio Barics Dre Newydd lle’r arferai chwarelwyr fyw yn ystod yr wythnos a chewch gipolwg ar sgiliau crefftwaith llechi’r chwarelwyr.
Llwybr Natur
Dilynwch yr arwyddion cyfeirio gwyrdd i gyfeiriad gorsaf Rheilffordd Llyn Padarn. Cewch gip ar Chwarel Vivian, sy’n gyfoethog o ran treftadaeth Gymreig. Crwydrwch drwy’r goedwig dderw gysgodol, a chadwch lygad am y rhywogaethau amrywiol o redyn a gweddillion Oes yr Iâ ddiwethaf ar ffurf Til Rhewlifol. Mae’r daith hon oddeutu 2km (1-1.5 awr).
Dewch i brofi esblygiad planhigion, o lystyfiant i goedwigoedd derw digoes, sy’n gartref i lindys Gwyfynod Gwinau Brith ym mis Mai. Gwrandewch am gân gwahanol rywogaethau o adar, yn cynnwys Gwybedog Brith. Gorffennwch eich taith yn yr olygfan olaf, a grëwyd o wastraff llechi Chwarel Vivian, sy’n cynnig cip ar ddyfnderoedd y llyn islaw.




Y wardeiniaid
Mae gennym dîm bychan o wardeiniaid sy’n rheoli ein safle 800 erw ac yn gweithio’n hynod o galed i reoli ein parc. Mae natur Parc Padarn yn golygu ei bod yn swydd heriol i reoli’r coetir, y llyn, a sawl peth arall. Yn ogystal, rydym yn gofalu am ein chwaer-safle, Parc Glynllifon, ac rydym bob amser yn barod i helpu. Fe welwch chi ni’n crwydro o gwmpas y safle; dewch i ddweud helo!
Prosiectau
Ym Mharc Padarn, rydym wedi ymrwymo i brosiectau hirdymor sydd â’r nod o warchod ein treftadaeth naturiol a gwella profiadau ymwelwyr. O fentrau adfer cynefinoedd i raglenni addysgol, rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynaliadwy lle mae bywyd gwyllt ac ymwelwyr yn ffynnu.
Gwaredu Dyfrllys Crych
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwared â’r rhywogaeth ymledol hon o’r llyn.
Rhaglen Llewyrch o'r Llechi
Gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU, byddwn yn adeiladu bloc toiled newydd, adfer inclein A, dychwelyd injan y Fire Queen, ac adfer Hafod Owen a’r strwythrau o fewn Chwarel Vivian.
Cynnal a chadw'r parc
Gwelliannau i Barc Padarn, yn cynnwys uwchraddio a chreu llwybrau cerdded ac ailbwrpasu adeiladau hanesyddol.