Prosiectau
Hafan/Prosiectau
Rydym yn gofalu am ein parc gwledig
Mae ein hymrwymiad i warchod Parc Padarn yn mynd y tu hwnt i gynnal a chadw’r tiroedd yn unig. Rydym yn cymryd rhan weithredol mewn prosiectau cadwraeth ac adfer a fydd yn galluogi ymwelwyr i fwynhau prydferthwch diamheuol a threftadaeth gyfoethog y parc.
Yma gallwch ddysgu am ein prosiectau diweddaraf a’u cynnydd. O dynnu rhywogaethau planhigion goresgynnol o’r Llyn i adfer adeiladweithiau chwarel hanesyddol gan ddefnyddio deunyddiau llechi traddodiadol, ein nod yw gwarchod bioamrywiaeth a thirnodau diwydiannol yr ardal. Rydym hefyd yn gwella hygyrchedd drwy wella’r llwybrau a gosod arwyddbyst lleoliad arloesol.
Prosiectau cyfredol
Gweler isod y prif brosiectau rydym yn cydweithio arnynt ag amrywiol sefydliadau er mwyn gwarchod a gwella amgylcheddau naturiol ac asedau hanesyddol y parc hynod hwn. Byddwch yn ymwybodol y gall bod mân ymyriadau ar adegau er mwyn hwyluso’r gwaith sy’n mynd rhagddo.
Gwaredu Dyfrllys Crych
Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Cyfoeth Naturiol Cymru i gael gwared â’r rhywogaeth ymledol hon o’r llyn.
Rhaglen Llewyrch o'r Llechi
Gyda chefnogaeth Llywodraeth y DU, byddwn yn adeiladu bloc toiled newydd, adfer inclein A, dychwelyd injan y Fire Queen, ac adfer Hafod Owen a’r strwythrau o fewn Chwarel Vivian.
Cynnal a chadw'r parc
Gwelliannau i Barc Padarn, yn cynnwys uwchraddio a chreu llwybrau cerdded ac ailbwrpasu adeiladau hanesyddol.

Gwirfoddoli ym Mharc Padarn
Er ein bod yn gweithredu â thîm bychan ac ymroddgar yn unig, mae ein brwdfrydedd dros warchod Parc Padarn wedi’i wreiddio’n ddwfn. Mae cynnal a chyfoethogi’r lle naturiol rhyfeddol hwn yn llafur cariad na allem ei gyflawni ein hunain. Dyna pam rydym bob amser yn awyddus i groesawu gwirfoddolwyr newydd sy’n rhannu ein hymrwymiad i gynnal yr ardal am genedlaethau i ddod. Gyda chefnogaeth frwd y gymuned, gall Parc Gwledig Padarn wirioneddol ffynnu a pharhau’n drysor gwerthfawr i’r rhanbarth.
Cynhelir y system wirfoddoli drwy Gymdeithas Eryri. Gweler y ddolen isod am ragor o wybodaeth ynglŷn â gwirfoddoli ym Mharc Gwledig Padarn.