Hafan/Y parc/Y llyn

Y Llyn

Dewch i fwynhau diwrnod anhygoel ym Mharc Padarn, lle gallwch ymlacio ar lan y llyn, mwynhau golygfeydd trawiadol ar y cwch, a phrofi prydferthwch a thawelwch byd natur. Croeso i bawb o bob oed.

Archwilio

Wrth ymweld â’r llyn, mae’n bwysig gwirio, glanhau, a sychu’r holl gyfarpar a dillad er mwyn atal lledaeniad rhywogaethau goresgynnol sy’n tyfu yn yr ardal. Mae’r rhywogaethau goresgynnol Lagarosiphon Major a’r Elodea Nuttallii yn tyfu yn y llyn felly mae’n bwysig sicrhau eich bod yn gwirio eich cyfarpar, yn glanhau popeth yn drylwyr ac yn sychu eich offer am gyn hired â phosibl.

Dewch i nofio yn Llyn Padarn, sy’n llawn hanes a natur. Yn un o’r llynnoedd gorau yng Ngogledd Cymru, mae hefyd wedi’i ddynodi fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o ganlyniad i’w fioamrywiaeth gyfoethog, yn cynnwys Torgoch yr Arctig, Llyriad-y-Dŵr a Chreigiau Cambriaidd. Mae modd i chi ein helpu ni i warchod yr amgylchedd unigryw hwn drwy gadw draw o ardaloedd sensitif – am wybodaeth, lawrlwythwch y map hwn (PDF).

Y tu hwnt i fywyd gwyllt, mae Llyn Padarn yn cynnig cipolwg ar orffennol daearegol Cymru gyda’i greigiau Cambriaidd a’i hanes diwydiannol, megis yr Olwyn Ddŵr Enfawr a gweddillion hen adeiladweithiau o’r oes a fu.

Mae cyfleoedd ar gyfer dringo a sgwba-blymio, yn ogystal â gweithgareddau hamddenol fel teithiau cwch ar y llyn. Teimlo’n anturus? Ymdrochwch yn ein llyn a mwynhewch fyd natur.

A wyddoch chi?

Gwybodaeth am ddiogelwch

Dyma ychydig o bwyntiau i’w hystyried:

  • Mae ein llyn yn mesur 30m ar ei ddyfnaf, felly mae’n bwysig bod yn ofalus wrth nofio yma.
  • Gwiriwch ddyfnder a thirwedd gwely’r llyn, gan y gall rhai ardaloedd ddyfnhau’n ddi-rybudd.
  • Cymerwch bwyll wrth fynd i mewn i’r dŵr er mwyn dod i’r arfer â’i dymheredd a pheidiwch â neidio neu blymio, yn enwedig o ystyried y llechi miniog sy’n bodoli oddi tano.
  • Cynlluniwch eich llwybr nofio ar hyd y lan i’ch galluogi i ddod allan yn ddi-drafferth a bod yn weledol i gychod sy’n mynd heibio. Gwisgwch gap nofio llachar a thowiwch fflôt lliwgar er mwyn sicrhau bod modd eich adnabod yn hawdd.
  • Gall gwisgo siwt wlyb eich cadw’n fwy cynnes a hynawf, ond peidiwch byth â nofio ar eich pen eich hun – sicrhewch fod gennych rywun gerllaw i’ch goruchwylio, sydd â chanŵ, caiac, neu phadlfwrdd yn arddangos baner Alpha glas a gwyn yn ddelfrydol i rybuddio eraill.
  • Gall tymheredd isel y llyn arwain at hypothermia, hyd yn oed ar ddiwrnodau poeth o haf, felly peidiwch ag aros yn rhy hir yn y dŵr. Cyn nofio, sicrhewch eich bod yn gwirio’r tywydd, gan y gall newid ar ddim.

Mae eich diogelwch yn bwysig wrth badlfyrddio, rhwyfo a chaiacio yn ogystal. Sicrhewch eich bod yn gwisgo siaced achub neu gymhorthydd hynofedd sy’n dangos y marc CE a pharhewch i’w gwisgo pan fyddwch yn agos at ddŵr. Sicrhewch fod gennych gwmni bob amser a chadwch yn agos at y lan, gan fod posibilrwydd i’r gwynt newid cyfeiriad yn ddi-rybudd, gan achosi i chi gael eich chwythu i ochr arall y llyn.

Unrhyw gwestiynau?

Edrych yn fanylach ar

Parc Padarn

Dewiswch eich iaith:

Select your language: