Hygyrchedd
Diweddarwyd ddiwethaf 24.10.24
Diweddarwyd ddiwethaf 24.10.24
Mae hwn yn ddatganiad hygyrchedd gan Gyngor Gwynedd. Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i https://parcpadarn.cymru/.
Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan Gyngor Gwynedd. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Rydym yn croesawu eich adborth ar hygyrchedd Gwefan Parc Padarn. Cysylltwch â ni os ydych yn dod ar draws unrhyw rwystrau hygyrchedd ar Wefan Parc Padarn. E-bost: parcgwledigpadarn@gwynedd.llyw.cymru. Rydym yn ceisio ymateb i adborth o fewn 5 diwrnod gwaith.
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni ein disgwyliadau hygyrchedd, cysylltwch â: parcgwledigpadarn@gwynedd.llyw.cymru.
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn fodlon â'r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Equality Advisory and Support Service (EASS).
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon ac yn anhapus gyda sut rydym yn ymateb i’ch cwyn gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb dros Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Cheisiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y 'rheoliadau hygyrchedd') yng Ngogledd Iwerddon.
Mae Parc Padarn wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan wedi'i phrofi yn erbyn safon 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 Safon AA.
Paratowyd y datganiad hwn ar 24 Hydref 2024. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 24 Hydref 2024. Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 24 Hydref 2024. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio'r offer awtomataidd canlynol:
Dewiswch eich iaith:
Select your language: