Digwyddiadau
Cefndir godidog
Profwch y gorau o Ogledd Cymru ym Mharc Padarn, y lleoliad trawiadol sy’n cynnal digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. Yn ogystal â gweithredu fel parc gwledig anhygoel, rydym hefyd yn gweithio â phartneriaid i’w galluogi i gynnal eu digwyddiadau yn y parc.
Mae gan restr eleni rywbeth i ddiddanu bob oed. Porwch drwy ein calendr i ddarganfod sut allwch gael y profiad gorau o’r parc. Nodwch y gall hygyrchedd y parc gael ei effeithio yn ystod digwyddiadau, felly cysylltwch â gwesteiwyr y digwyddiad gydag unrhyw ymholiadau os nad ydych yn siŵr.
Yr Wyddfa Snowdon24
12–13 Gorffennaf 2025
Gan ddechrau ac orffen wrth droed y mynydd eiconig hwn, dy her yw dringo ac aros i lawr o’r Wyddfa gymaint o weithiau ag y medri di mewn 24 awr.
Marathon Eryri
12 Gorffennaf 2025
Mae’r llwybrau anhygoel yma’n archwilio llwybrau trawiadol Parc Cenedlaethol Eryri – gyda golygfeydd panoramig bendigedig a dringfeydd heriol, prin y gall llwybr marathon arall yn y DU gystadlu efo hyn!
Ras yr Wyddfa
19 Gorffennaf 2025
Pedal, Paddle Peak Yr Wyddfa
6 Medi 2025
Mewn un diwrnod anturus, byddi di a’th dîm yn beicio 24 milltir, canŵio 2.5 milltir, ac yn cyrraedd copa’r Wyddfa. 2025 fydd ail flwyddyn y ras gyffrous hon yn Eryri.
Race The Sun
13 Medi 2025
Ras yn erbyn yr haul ar hyd cefn gwlad hardd Cymru – llwybr cyffrous sy’n cynnwys copaon miniog Yr Wyddfa a golygfeydd anhygoel o’r ardal o’i chwmpas.
Y Brutal
20 Medi 2025
Un o’r triathlons caletaf yn y byd – heria dy hun efo’r Brutal Extreme Triathlon. Dim ond i’r dewr!
Nofio’r Gaeaf Cymreig
15 Chwefror 2026
Gyda golygfeydd o’r Wyddfa wedi’i gorchuddio â rhew, mae Nofio’r Gaeaf Cymreig yn gala nofio awyr agored gyda llu o ddigwyddiadau hwyliog – yn berffaith i’r nofwyr caled ac y rhai sydd am roi tro ar nofio dŵr oer am y tro cyntaf.
Ultra Trail Eryri (UTS)
15–17 Mai 2026
Gwledd o lwybrau technegol trwy dirweddau mytholegol. Mae UTS yn rhan o gyfres fyd-eang UTMB® — ‘Prydferth y tu hwnt i gred. Caled y tu hwnt i reswm’…
Love SwimRun Llanberis
13 Mehefin 2026
Nofiwch yn nŵr clir dwfn Llyn Padarn a rhedwch o dan gopa ysblennydd Yr Wyddfa – bydd Love SwimRun Llanberis yn digwydd ym Mharc Gwledig Padarn, yng nghanol rhai o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yng Ngogledd Cymru!
Triathlon Llanc y Llechi
14 Mehefin 2026
Triathlon antur mwyaf eiconig Cymru – croeso i’r Slateman!
Gŵyl Cychod y Ddraig
20 Mehefin 2026
Paratowch am ddiwrnod tîm epig!
Diwrnod allan gwych i ffrindiau, teulu, grwpiau cymunedol – ac unrhyw un sydd am gael ychydig o hwyl. Cofrestru: £250 y tîm (isafswm nawdd o £1,000 y tîm).
The Big Welsh Swim
4 Gorffennaf 2026