Cynllunio eich ymweliad
Hafan/Ymweld â ni/Cynllunio eich ymweliad
Barod am antur
Fel y gwelwch chi cyn bo hir, byddwch yn profi rhai o atyniadau mwyaf anhygoel Gogledd Cymru drwy ddod ar ymweliad i Barc Padarn. Wedi’i amgylchynu gan olygfeydd prydferth, mae’n lle delfrydol i’w archwilio a chreu atgofion anhygoel.
Lleoliad
Mae Wardeiniaid Parc Gwledig Padarn wedi’u lleoli yn Ysbyty’r Chwarel, ond mae’r tri phrif faes parcio i’w gweld isod.
Cyrraedd yma
- O gyfeiriad Bangor, gadewch yr A55 ar gyffordd 11 a dilynwch yr arwyddion am yr A4244 i Lanberis.
- O gyfeiriad Caernarfon, dilynwch yr A4086 i Lanberis
- O gyfeiriad Betws-y-Coed, dilynwch yr A5 cyn ymuno â’r A4086
Parcio
Cynllun ArosFan
Defnyddiwch ein mannau ArosFan a leolir yn Y Glyn, Llanberis i barcio eich cartref modur. Mae sawl ffordd o dalu, naill ai drwy’r peiriant talu ac arddangos neu ar-lein.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Gwynedd.
Archwilio'r parc
Ar ôl cyrraedd yma, dewiswch lwybr a dewch i ganfod yr hyn sy’n gwneud y parc hwn mor arbennig. Mae gennym lwybrau drwy’r goedwig ac o amgylch y llyn i chi eu dewis, bob un â’i olygfeydd unigryw i’w mwynhau.




Beth sydd ar y gweill?
Rydym yn ffodus i ddarparu’r lleoliad ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, o’r ‘Welsh Winter Swim’ adfywhaol i’r Rali Ceir Clasurol hiraethlon. Gall y dyddiadau hyn effeithio ar fynediad a phrysurdeb y parc, felly cysylltwch yn uniongyrchol â’r sefydliad sy’n cynnal y digwyddiad.
Cwestiynau Cyffredin
PRYD MAE YSBYTY'R CHWAREL AR AGOR?
Rydym ar agor o’r Pasg hyd fis Medi, 1-4pm. Os ydych yn teithio’n benodol i ymweld ag Ysbyty’r Chwarel, mae croeso i chi roi galwad ffôn i ni cyn dod er mwyn cadarnhau ein horiau agor.
A GAF FI DDOD Â FY NGHAIAC NEU BADLFWRDD FY HUN?
Oes, mae yna bwyntiau lansio dynodedig o amgylch y llyn lle gallwch osod eich caiac/padlfwrdd ar y dŵr yn rhwydd. Mae’r pwyntiau mynediad rhwyddaf ger y meysydd parcio o amgylch Llanberis, sef Y Glyn a Gilfach Ddu. Dilynwch y canllawiau priodol ar gyfer eich crefft neu weithgarwch, a chofiwch fod yn wyliadwrus o nofwyr dŵr agored yn y llyn.
A GAF FI DDOD I FFILMIO?
Ydy, mae Parc Padarn yn lleoliad poblogaidd ar gyfer ffilmio. P’un a yw’n brosiect myfyriwr bychan neu’n gynhyrchiad mawr, cysylltwch â ni ynghylch caniatâd ffilmio.
A YW YSBYTY'R CHWAREL YN HYGYRCH?
Ydy, mae’r chwarel lechi’n hygyrch i ymwelwyr. Serch hynny, oherwydd prinder lle, gofynnwn i chi gysylltu â ni’n unionyrchol os ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas neu os hoffech unrhyw gymorth ychwanegol. Rydym yn hapus i helpu!
A OES LLE PARCIO AR Y SAFLE?
Oes, mae tri maes parcio ar gael i’w defnyddio, gyda meysydd parcio’r cyngor yn ychwanegol yn yr ardal. Gallwch dalu am barcio drwy’r peiriant neu drwy’r ap PayByPhone.