Hafan/Y parc/Coed Dinorwig
Coed Dinorwig
Dewch i ryfeddu ar ein coedwig dderw Gymreig hynafol a phrin sy’n gyfoeth o fywyd gwyllt, llwybrau hanesyddol a golygfeydd godidog. Yn un o drysorau’r ardal ac yn cynnwys amrywiaeth o deithiau cerdded hir a byr, mae yna lwybr sy’n addas i bawb.
Mwynhau ein coedwig hynafol
Mae Coed Dinorwig yn rhan o Barc Padarn ac mae’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd ei harwyddocâd ecolegol a hanesyddol. Mae’n cynrychioli un o’r darnau olaf o goedwigoedd Derw Cymreig hynafol. Yn benodol, y dderwen digoes sy’n cefnogi amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gynnwys rhai rhywogaethau sy’n brin ar draws y wlad.
Mae taith y goedwig, sydd wedi’i nodi’n felyn, yn dechrau ym man gwybodaeth Gilfach Ddu. Mae’r daith brydferth hon drwy Goed Dinorwig yn dilyn y llwybr hanesyddol a ddefnyddiwyd ar un adeg gan chwarelwyr i deithio’n ôl a ‘mlaen i’w gwaith.





Nodweddion allweddol
- Yn rhan o Fforestydd Brenhinol Gwynedd ar un adeg, arferai Coed Dinorwig feddu ar warant frenhinol ar gyfer hela yn y 1400au, ac mae’n un o’r ychydig goedwigoedd hynafol sydd ar ôl yng Nghymru.
- Mae’r ardal yn cynnig cynefin i amrywiol blanhigion ac anifeiliaid. Mae’n gartref i adar megis cudyllod coch, bwncathod, pïod y coed, cigfrain, dringwyr bach, titŵod cynffon hir, a gwybedogion brith.
- Mae’r ardal hefyd yn gartref i famaliaid fel carlymod, llygod y maes, llwynogod, a chwningod. Cadwch lygad amdanynt!
- Dysgwch am y planhigion amrywiol sydd yma, yn cynnwys coed derw, celyn, cyll a bedw, yn ogystal â lluswydd, rhedyn a mwsoglau.
- Diolch i lefelau isel o lygredd atmosfferig, mae gennym doreth o gennau yn y parc yn ogystal.


