Cynllunio eich ymweliad

Hafan/Ymweld â ni/Cynllunio eich ymweliad

Barod am antur

Fel y gwelwch chi cyn bo hir, byddwch yn profi rhai o atyniadau mwyaf anhygoel Gogledd Cymru drwy ddod ar ymweliad i Barc Padarn. Wedi’i amgylchynu gan olygfeydd prydferth, mae’n lle delfrydol i’w archwilio a chreu atgofion anhygoel.

Lleoliad

Mae Wardeiniaid Parc Gwledig Padarn wedi’u lleoli yn Ysbyty’r Chwarel, ond mae’r tri phrif faes parcio i’w gweld isod.

Cyrraedd yma

  • O gyfeiriad Bangor, gadewch yr A55 ar gyffordd 11 a dilynwch yr arwyddion am yr A4244 i Lanberis.
  • O gyfeiriad Caernarfon, dilynwch yr A4086 i Lanberis
  • O gyfeiriad Betws-y-Coed, dilynwch yr A5 cyn ymuno â’r A4086

Parcio

Mae tri phrif faes parcio ar y safle, gyda meysydd parcio’r cyngor yn ychwanegol; maes parcio Gilfach Ddu (Amgueddfa Lechi), maes parcio Dolbadarn a maes parcio Y Glyn (lagŵn).Codir ffi i barcio ac mae modd ei thalu drwy ddefnyddio’r peiriant talu ac arddangos neu drwy’r ap PayByPhone.

Cynllun ArosFan

Defnyddiwch ein mannau ArosFan a leolir yn Y Glyn, Llanberis i barcio eich cartref modur. Mae dwy ffordd o dalu ar gael, naill ai drwy’r peiriannau talu ac arddangos ar y safle neu yn defnyddio app Pay By Phone (lleoliad 804551).

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Gwynedd.

Archwilio'r parc

Ar ôl cyrraedd yma, dewiswch lwybr a dewch i ganfod yr hyn sy’n gwneud y parc hwn mor arbennig. Mae gennym lwybrau drwy’r goedwig ac o amgylch y llyn i chi eu dewis, bob un â’i olygfeydd unigryw i’w mwynhau.

Beth sydd ar y gweill?

Rydym yn ffodus i ddarparu’r lleoliad ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, o’r ‘Welsh Winter Swim’ adfywhaol i’r Rali Ceir Clasurol hiraethlon. Gall y dyddiadau hyn effeithio ar fynediad a phrysurdeb y parc, felly cysylltwch yn uniongyrchol â’r sefydliad sy’n cynnal y digwyddiad.

Cwestiynau Cyffredin

Dros yr Ŵyl, bydd Ysbyty’r Chwarel ar agor rhwng 10.00 a.m. a 4.00 p.m. ar y dyddiadau canlynol yn unig:

Ar agor fel arfer hyd at 20fed o Ragfyr.

Ar agor wedyn ar y 27ain, 28ain, 29ain, 30ain o Ragfyr a’r 2ail a 3ydd o Ionawr.

O’r 4ydd o Ionawr ymlaen, bydd Ysbyty’r Chwarel wedi cau tan y 14eg Chwefror.

Mae Ysbyty’r Chwarel ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, rhwng 10.00 y.b. a 4.30 y.h. (mynediad olaf am 4.00y.h.). Ar gau ddydd Sul a dydd Llun (ac eithrio dydd Llun Gŵyl y Banc).

Ydi, mae Ysbyty’r Chwarel yn hygyrch i ymwelwyr. Fodd bynnag, ni chaniateir mynediad i gerbydau i Ysbyty’r Chwarel, ac eithrio Deiliaid Bathodyn Glas. Cynghorir Deiliaid Bathodyn Glas i gysylltu â ni ymlaen llaw i sicrhau bod y ffordd fynediad yn agored a bod lle parcio ar gael. Rydym yn hapus i helpu! Y maes parcio agosaf yw Gilfach Ddu, sydd tua 5 i 10 munud o waith cerdded i ffwrdd.

Oes, mae yna bwyntiau lansio dynodedig o amgylch y llyn lle gallwch osod eich caiac/padlfwrdd ar y dŵr yn rhwydd. Mae’r pwyntiau mynediad rhwyddaf ger y meysydd parcio o amgylch Llanberis, sef Y Glyn a Gilfach Ddu. Dilynwch y canllawiau priodol ar gyfer eich crefft neu weithgarwch, a chofiwch fod yn wyliadwrus o nofwyr dŵr agored yn y llyn.
Ydy, mae Parc Padarn yn lleoliad poblogaidd ar gyfer ffilmio. P’un a yw’n brosiect myfyriwr bychan neu’n gynhyrchiad mawr, cysylltwch â ni ynghylch caniatâd ffilmio.

Oes, mae tri maes parcio ar gael i’w defnyddio, gyda meysydd parcio’r cyngor yn ychwanegol yn yr ardal. Gallwch dalu am barcio drwy’r peiriant neu drwy’r ap PayByPhone.

Dewiswch eich iaith:

Select your language: