Ffilmio
Hafan/Ymweld â ni/Ffilmio
Cefndir godidog
Os oes gennych ddiddordeb mewn ffilmio ym Mharc Padarn, anfonwch e-bost ymlaen llaw i parcgwledigpadarn@gwynedd.llyw.cymru er mwyn rhoi gwybodaeth am eich prosiect. Paul yw ein prif warden a bydd yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion.
Dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Natur a diben eich prosiect ffilm
- Y nifer o aelodau’r criw sy’n rhan o hyn
- Ardaloedd penodol y parc rydych yn dymuno eu defnyddio
- Y dyddiadau ac amseroedd arfaethedig ar gyfer ffilmio ac opsiynau dyddiadau eraill
- Cynllun asesiad risg cynhwysfawr a thystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
- Enw a chyfeiriad yr ymgeisydd (ar gyfer anfonebu)
Prisiau
| Ffi | Maint y criw |
|---|---|
| £35 | Elusennau, myfyrwyr (yn ôl disgresiwn) |
| £70 | Camera llaw: hyd at 5 person |
| £140 | Criw bach: hyd at 10 person, dim ond camera a thripod |
| £239 | Criw canolig: 11–19 o bobl |
| £350 | Criw mawr: 20–49 o bobl |
| £420 | Criw mawr iawn: 50+ o bobl |
Taliadau gweinyddu ychwanegol ar gyfer cynyrchiadau graddfa fawr os yn angenrheidiol. Mae’r prisiau isod yn cynnwys TAW:
| Ffi | Maes Gweinyddu |
|---|---|
| £150 yr awr | Codir hwn ar ôl i waith gweinyddu redeg dros awr (Telir am yr awr gyntaf gan ffi Gweinyddu'r cais) |
| £150 yr awr | Cyfarfodydd safleoedd lleoliad |
A wyddoch chi?


