Hafan/Y parc/Y llyn

Llechi

Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru

Stori'r llechi

Cafodd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru ei arysgrifio fel pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd Cymru ym mis Gorffennaf 2021. ⁠Y tri safle arall yng Nghymru yw Cestyll a Muriau Trefi’r Brenin Edward yng Ngwynedd, Tirwedd Diwydiannol Blaenafon a Dyfrbont a Chamlas Pontcysyllte.

Dyma dirwedd sy’n llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth. Roedd diwydiant llechi Cymru yn cyflogi miloedd o bobl, gan drawsnewid rhannau o’r dirwedd amaethyddol yn ganolfan ddiwydiannol ar gyfer cynhyrchu llechi yn ystod y Chwyldro Diwydiannol.

Mae’r gamp beirianyddol a’r arloesedd technolegol a ddefnyddiwyd wrth echdynnu, prosesu a chludo’r llechi yn syfrdanol, gyda gweithgareddau’r chwareli yn gyfrifol am naddu llethrau cyfan o’r mynyddoedd mewn rhai mannau. Hefyd, fe newidiwyd y dirwedd gan y trefi, y pentrefi a’r cymunedau a dyfodd yn ardaloedd y chwareli, ynghyd â helpu i gryfhau’r iaith Gymraeg. Esgorodd y cymunedau hyn hefyd ar lenyddiaeth, cerddoriaeth a chelfyddyd o bwys rhyngwladol.

Roedd llechi yn gynnyrch byd-eang, yn gyfrifol am ‘roi to ar y byd’. ⁠Allforiwyd technoleg a sgiliau hefyd, wrth i ddulliau cloddio llechi Cymru ddatblygu’n fodel ar gyfer chwareli mewn rhannau eraill o’r byd.

Archwilio

Mae ⁠Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn cynnwys chwe ardal neu ‘cydrannau’. I ddysgu mwy am yr ardaloedd hyn ac am syniadau ar beth i’w wneud a’i weld, ⁠cliciwch yma.

A wyddoch chi?

⁠Mwynhau Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn gyfrifol

Rydym yn annog pawb i fynd ati i fwynhau Safle Treftadaeth y Byd yn gyfrifol. Mae hon yn dirwedd fyw, a gofynnwn i’r rhai sy’n dod yma barchu cymunedau lleol a dymuniadau tirfeddianwyr, a pharchu ein tirwedd hanesyddol arbennig. Mae’r isadeiledd i ymwelwyr yn amrywio rhwng pob cydran, a dylech ystyried hyn wrth gynllunio eich ymweliad.

Rydym hefyd yn gofyn i bobl fwynhau’r dirwedd hon mewn modd diogel. ⁠Mae Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru yn hynod o ddiddorol, ond o ganlyniad i’w natur gall fod yn bellennig, yn beryglus ac yn heriol. Mae cyfran sylweddol o’r dirwedd mewn perchnogaeth breifat ac mae rhywfaint yn dir lle na chaniateir unrhyw fynediad i’r cyhoedd.

⁠Cyn i chi fynd i grwydro, dylech ofyn i chi eich hun, oes gen i hawl i fynd ar y safle yma? Ydi’r offer iawn gen i? Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd? Ydw i’n hyderus bod gennyf y wybodaeth a’r sgiliau ar gyfer y diwrnod? Ewch i www.adventuresmart.uk am wybodaeth am sut i fwynhau eich ymweliad yn ddiogel.

Gwybodaeth Bellach

Am fwy o wybodaeth ar Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, ewch i www.llechi.cymru Neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol:. Or follow us on social media:

Edrych yn fanylach ar

Parc Padarn

Dewiswch eich iaith:

Select your language: