Tudalen brawf
Hafan/Ymweld â ni/Ffilmio
Cefndir godidog
Os oes gennych ddiddordeb mewn ffilmio ym Mharc Padarn, anfonwch e-bost ymlaen llaw i paulsivyer@gwynedd.llyw.cymru , er mwyn rhoi gwybodaeth am eich prosiect. Paul yw ein prif warden a bydd yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion!
Dylech gynnwys y wybodaeth ganlynol:
- Natur a diben eich prosiect ffilm
- Y nifer o aelodau’r criw sy’n rhan o hyn
- Ardaloedd penodol y parc rydych yn dymuno eu defnyddio
- Y dyddiadau ac amseroedd arfaethedig ar gyfer ffilmio ac opsiynau dyddiadau eraill
- Cynllun asesiad risg cynhwysfawr a thystiolaeth o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
- Enw a chyfeiriad yr ymgeisydd (ar gyfer anfonebu)
A wyddoch chi?


