Hafan/Y parc/Ysbyty’r Chwarel

Ysbyty’r Chwarel

Cymerwch gip ar y gorffennol, gan archwilio’r ysbyty hanesyddol wrth fwynhau’r golygfeydd trawiadol dros y llyn.

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Dros yr Ŵyl, bydd Ysbyty’r Chwarel ar agor rhwng 10.00 a.m. a 4.00 p.m. ar y dyddiadau canlynol yn unig:

Ar agor fel arfer hyd at 20fed o Ragfyr.

Ar agor wedyn ar y 27ain, 28ain, 29ain, 30ain o Ragfyr a’r 2ail a 3ydd o Ionawr.

O’r 4ydd o Ionawr ymlaen, bydd Ysbyty’r Chwarel wedi cau tan y 14eg Chwefror.

Nid oes mynediad cerbyd at Ysbyty’r Chwarel i ymwelwyr, eithrio deiliaid Bathodyn Glas. Y maes parcio agosaf yw Gilfach Ddu, sydd rhwng 5 a 10 munud o waith cerdded i ffwrdd.

Cynghorir deiliaid Bathodyn Glas i gysylltu â ni ymlaen llaw i sicrhau bod y ffordd fynediad ar agor a bod lle parcio ar gael.

Gwybodaeth i Ymwelwyr

Mae Ysbyty’r Chwarel ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, rhwng 10.00 y.b. a 4.30 y.h. (mynediad olaf am 4.00y.h.). Ar gau ddydd Sul a dydd Llun (ac eithrio dydd Llun Gŵyl y Banc).

Nid oes mynediad cerbyd at Ysbyty’r Chwarel i ymwelwyr, eithrio deiliaid Bathodyn Glas. Y maes parcio agosaf yw Gilfach Ddu, sydd rhwng 5 a 10 munud o waith cerdded i ffwrdd.

Cynghorir deiliaid Bathodyn Glas i gysylltu â ni ymlaen llaw i sicrhau bod y ffordd fynediad ar agor a bod lle parcio ar gael.

Prif nodweddion

Archwiliwch arddangosiadau o gyfarpar ac arferion meddygol hanesyddol a ddefnyddiwyd ar un adeg i drin chwarelwyr – cipolwg rhyfeddol ar y gorffennol. Mae ein harddangosfeydd yn dangos datblygiadau meddygol arloesol yr ysbyty ac yn rhoi darlun i ni o’r ffordd roeddent yn helpu i gadw’r chwarelwyr yn iach a diogel,  gan gyfrannu at hanes diwydiannol cyfoethog ein hardal.

Edrych yn fanylach ar

Parc Padarn

Dewiswch eich iaith:

Select your language: